Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech Wele goelcerth wen yn fflamio A thafodau tân yn bloeddio Ar i’r dewrion ddod i daro Unwaith eto’n un. Gan fanllefau tywysogion Llais gelynion, trwst arfogion A charlamiad y marchogion Craig ar graig a gryn. Arfon byth ni orfydd Cenir yn dragywydd Cymru fydd fel Cymru fu Yn glodfawr ym mysg gwledydd. Yng ngwyn oleuni’r goelcerth acw Tros wefusau Cymro’n marw Annibyniaeth sydd yn galw Am ei dewraf ddyn. Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid Harlech! Harlech! cwyd i’w herlid Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid Yn rhoi nerth i ni. Wele Gymru a’i byddinoedd Yn ymdywallt o’r mynyddoedd! Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd Llamant fel y lli! Llwyddiant i’n marchogion Rwystro gledd yr estron! Gwybod yn ei galon gaiff Fel bratha cleddyf Brython Y cledd yn erbyn cledd a chwery Dur yn erbyn dur a dery Wele faner Gwalia’i fyny Rhyddid aiff â hi! (source: http://cy.wikipedia.org/wiki/Rhyfelgyrch_Gw%C5%B7r_Harlech)